ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

Taliad mewn cysylltiad â’r dreth gyngorLL+C

7(1)Mae taliad y mae’n ofynnol i ddeiliad contract ei wneud i awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r dreth gyngor yn daliad a ganiateir os yw deiliad y contract yn atebol am wneud y taliad yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6, 8 neu 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (c. 14).

(2)Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod bilio” yr un ystyr ag a roddir i “billing authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)