ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

Taliad mewn cysylltiad â darparu cyfleustodauLL+C

8(1)Mae taliad ar gyfer darparu cyfleustod, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(2)Mae taliad tuag at welliannau effeithlonrwydd ynni o dan gynllun y fargen werdd (o fewn yr ystyr a roddir i “green deal plan” gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2011 (p.16)) yn daliad a ganiateir—

(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a

(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “cyfleustod” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)trydan, nwy neu danwydd arall;

(b)dŵr neu garthffosiaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)