Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

EithriadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

10Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—

(a)os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a

(b)bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond

(c)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)