xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CYmdrin â Blaendal Cadw

Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10LL+C

11(1)Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).

(2)Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).

(3)Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(4)Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.

(5)Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)