EithriadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
7Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—
(a)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu
(b)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)