xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 2LL+CYmdrin â Blaendal Cadw

CymhwysoLL+C

1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan delir blaendal cadw mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

(2)Mae cyfeiriadau yn yr Atodlen hon at ddeiliad contract, mewn perthynas â blaendal cadw, yn gyfeiriadau at y person y mae ei hawl i gael y cynnig cyntaf wedi ei gadw gan y blaendal cadw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Ystyr “terfyn amser ar gyfer cytundeb”LL+C

2(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr y “terfyn amser ar gyfer cytundeb” yw pymthegfed diwrnod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y telir y blaendal cadw.

(2)Ond caiff y partïon gytuno yn ysgrifenedig i ddiwrnod gwahanol fod y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio is-baragraff (1) i newid y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Gofyniad i ad-dalu blaendal cadwLL+C

3Yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, rhaid i’r person a gafodd y blaendal cadw ei ad-dalu⁠—

(a)os yw’r partïon yn ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, neu

(b)os yw’r partïon yn methu ag ymrwymo i’r contract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

4Rhaid ad-dalu’r blaendal o fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau ag—

(a)pan fo paragraff 3(a) yn gymwys, y diwrnod y gwneir y contract, neu

(b)pan fo paragraff 3(b) yn gymwys, y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I8Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

EithriadauLL+C

5Nid yw paragraff 3(a) yn gymwys i’r graddau y cymhwysir swm y blaendal—

(a)tuag at y taliad rhent cyntaf o dan y contract, neu

(b)tuag at dalu blaendal sicrwydd o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I10Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

6Os cymhwysir y blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, yn unol â pharagraff 5(b), caiff y swm a gymhwysir ei drin at ddibenion adran 45 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) fel pe bai wedi ei dalu ar y dyddiad y gwneir y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I12Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

7Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ac—

(a)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried y gwahaniaeth rhwng yr wybodaeth a ddarparwyd gan ddeiliad y contract a’r wybodaeth gywir wrth benderfynu pa un ai i roi contract i ddeiliad y contract, neu

(b)bod hawl resymol gan y landlord i ystyried gweithred deiliad y contract yn darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol wrth benderfynu pa un ai i roi contract o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I14Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

8Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys os yw deiliad y contract yn hysbysu’r landlord neu’r asiant gosod eiddo cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb bod deiliad y contract wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i gontract.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

9Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i landlord—

(a)os yw’r landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, ond

(b)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I18Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

10Nid yw paragraff 3(b) yn gymwys mewn perthynas â blaendal cadw a delir i asiant gosod eiddo—

(a)os yw’r asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb, a

(b)bod y landlord yn cymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw, ond

(c)bod deiliad y contract yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ymrwymo i gontract cyn y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I20Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)

Darpariaeth atodol ynghylch eithriadau ym mharagraffau 8 i 10LL+C

11(1)Ni ellir dibynnu ar yr eithriadau a bennir ym mharagraffau 8, 9 a 10 oni fodlonir yr amod yn is-baragraff (2).

(2)Yr amod yw, cyn talu’r blaendal cadw, fod deiliad y contract wedi cael yr wybodaeth sydd o fewn is-baragraff (3) oddi wrth naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo (os yw asiant o’r fath wedi ei gyfarwyddo gan y landlord mewn perthynas â’r contract).

(3)Mae gwybodaeth sydd o fewn yr is-baragraff hwn yn wybodaeth a bennir mewn rheoliadau, neu’n wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.

(4)Nid yw gwybodaeth i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu i ddeiliad y contract, at ddibenion is-baragraff (1), oni bai ei bod wedi ei darparu ym mha ffordd bynnag (os oes un) a bennir yn y rheoliadau.

(5)Mewn achos pan fo landlord wedi cyfarwyddo asiant gosod eiddo mewn perthynas â chontract, ni chaniateir dibynnu ar yr eithriad ym mharagraff 9, yn ogystal, oni bai bod yr asiant yn cymryd pob cam rhesymol i gynorthwyo’r landlord i ymrwymo i gontract cyn y terfyn amser ar gyfer cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I22Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)