Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

14Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarnLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).

(2)Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.

(3)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 14 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)