xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGORFODAETH

Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014LL+C

21Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014LL+C

Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 21 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)