xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWAHARDD TALIADAU PENODOL ETC.

3Gwaharddiadau sy’n gymwys i asiantiaid gosod eiddoLL+C

(1)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r asiant gosod eiddo, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn gontract rhwng landlord ac asiant gosod eiddo yn unig, mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant i ymgymryd ag ef ar ran y landlord.

(4)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)