Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

DigolleduLL+C

35Digolledu’r person a dramgwyddwydLL+C

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os caiff cwyn mewn perthynas â mater ei gwneud neu ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon, a

(b)os yw’r gŵyn yn un y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddi o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr awdurdod rhestredig y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef wneud taliad i’r person a dramgwyddwyd, neu ddarparu unrhyw fudd arall i’r person a dramgwyddwyd, mewn perthynas â’r mater sy’n destun y gŵyn.

(3)Nid yw’n berthnasol at ddibenion yr adran hon fod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r gŵyn, wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i’r gŵyn, nad yw eto wedi cwblhau ymchwiliad i’r gŵyn, neu nad yw wedi cadarnhau’r gŵyn.

(4)Nid yw’r pŵer yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod rhestredig i wneud y taliad neu i ddarparu’r budd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 35 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2