Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etcLL+C

51Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio i gwynion neu i roi’r gorau i ymchwiliadLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu—

(a)peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 43(8), neu

(b)pan fo’r Ombwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 44(3)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 44(4)(a),

rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at y canlynol—

(a)unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a

(b)y darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r datganiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r datganiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).

(7)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o ddatganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2)(b) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad.

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 51 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2