ATODLEN 1OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU: PENODI ETC

I1I215Adroddiadau blynyddol ac eithriadol

1

O ran yr Ombwdsmon—

a

rhaid iddo baratoi adroddiad cyffredinol bob blwyddyn ynghylch cyflawni ei swyddogaethau (“adroddiad blynyddol”);

b

caiff baratoi unrhyw adroddiad arall mewn perthynas â’i swyddogaethau sydd, yn ei farn ef, yn briodol (“adroddiad eithriadol”).

2

Caniateir i adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gynnwys unrhyw argymhellion cyffredinol sydd gan yr Ombwdsmon sydd wedi codi wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau.

3

Rhaid i’r Ombwdsmon osod copi o bob adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn gerbron y Cynulliad ac ar yr un pryd rhaid iddo anfon copi at Lywodraeth Cymru ac (os yw’r adroddiad yn adroddiad eithriadol) rhaid iddo anfon copi ohono at unrhyw awdurdodau rhestredig (ac eithrio Llywodraeth Cymru) sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

4

Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn at unrhyw bersonau eraill sydd, yn ei farn ef, yn briodol.

5

Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi unrhyw adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan y paragraff hwn, a chaiff y Cynulliad hefyd gyhoeddi’r adroddiad.

6

Rhaid i’r Ombwdsmon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan y Cynulliad mewn perthynas ag adroddiad blynyddol.

7

Os yw adroddiad a baratoir o dan y paragraff hwn—

a

yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw awdurdod rhestredig, darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—

i

y mae cwyn wedi’i gwneud i’r Ombwdsmon amdano neu wedi’i hatgyfeirio at yr Ombwdsmon yn ei gylch o dan y Ddeddf hon, neu

ii

y mae’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad iddo o dan adran 4 neu 44, neu

b

yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-baragraff (3), a anfonir at berson o dan is-baragraff (3) neu (4) neu a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan is-baragraff (5), yn ddarostyngedig i is-baragraff (8).

8

Nid yw is-baragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw bersonau sydd, yn ei farn ef yn briodol, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.