Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

43Pŵer i ymchwilio i gwynionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn ynghylch mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo os yw’r gŵyn—

(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu

(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac

yn achos cwyn sy’n ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, os bodlonir yr amod yn is-adran (2).

(2)Yr amod yw bod y darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy, mewn perthynas â gwasanaeth gofal lliniarol y mae’n ei ddarparu yng Nghymru.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “cyllid cyhoeddus” yw cyllid gan—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),

(c)Ymddiriedolaeth GIG, neu

(d)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(4)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon,

(b)cyn i’r gŵyn gael ei gwneud—

(i)yw’r mater y mae’n ymwneud ag ef wedi ei ddwyn, gan neu ar ran y person yr effeithir arno, i sylw’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef, a

(ii)yw’r darparwr wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo, ac

(c)caiff gofynion adran 48(1) eu bodloni mewn perthynas â’r gŵyn.

(5)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a

(b)caiff gofynion adran 49(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(6)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni mewn perthynas â chŵyn.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn penderfynu na chafodd gofynion is-adran (1) eu bodloni mewn perthynas â chŵyn am na fodlonwyd gofynion is-adran (4)(b), adran 48(1) neu adran 49(1)⁠(b), (c) neu (d) mewn perthynas â’r gŵyn honno, caiff yr Ombwdsmon, er hynny, ymchwilio i’r gŵyn—

(a)os yw’n ymwneud â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(8)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

(9)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (8).

(10)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 43 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2