RHAN 5YMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL
Ymchwilio i gwynion
44Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hun
1
Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.
2
Ond os yw’r mater yn ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, dim ond os bodlonir yr amod yn adran 43(2) y caniateir defnyddio’r pŵer yn is-adran (1).
3
Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—
a
rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,
b
bod ag amheuaeth resymol o gamweinyddiaeth systemig,
c
ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach ynghylch ymgynghori), a
d
rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer cychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 45.
4
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—
a
mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i’r ymchwiliad o dan yr adran hon;
b
caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (4)(a).