Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

7Pwy sy’n cael cwynoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon o dan y Rhan hon yw—

(a)aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16;

(b)person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw;

(c)os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

(2)Ystyr “aelod o’r cyhoedd” yw unrhyw berson, heblaw awdurdod rhestredig sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw.

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2