RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Pwerau a dyletswyddau

I1I215Parhad pwerau a dyletswyddau

1

Caniateir arfer pŵer a roddir gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.

2

Mae dyletswydd a osodir gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.

3

Pan roddir pŵer gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan F1Ddeddf gan Senedd Cymru neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.