xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Pwerau a dyletswyddauLL+C

16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

(a)gan ddarpariaeth mewn [F1Deddf gan Senedd Cymru] a ddaw i rym—

(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F2... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [F3offeryn], a

(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

(a)i’r Ddeddf F4... neu i’r [F5offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

(4)Pan fo darpariaeth mewn [F1Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F6... neu’r [F7offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

Diwygiadau Testunol

F2Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F4Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F6Gair yn a. 16(5) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 16 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2