RHAN 2DEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU
Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraill
I122Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atynt
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.
2
Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—
a
gan Argraffydd y Frenhines, neu
b
o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.