Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

22Argraffiadau o Ddeddfau’r Cynulliad neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf Cynulliad (gan gynnwys Deddf Cynulliad nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)