Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F1Senedd Cymru] ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 6(2);

(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F3Senedd Cymru].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)