RHAN 2LL+CAILENWI CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU ETC.

2Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru neu Welsh ParliamentLL+C

Yn adran 1(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”), yn lle “the National Assembly for Wales” hyd at y diwedd rhodder “Senedd Cymru or the Welsh Parliament (referred to in this Act as “the Senedd”)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

3Ailenwi Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Ddeddfau Senedd CymruLL+C

Yn adran 107(1) o Ddeddf 2006, yn lle “the National Assembly for Wales” hyd at y diwedd rhodder “Senedd Cymru or Deddfau Senedd Cymru (referred to in this Act as “Acts of the Senedd”)”.

4Galw aelodau yn Aelodau o’r SeneddLL+C

Yn adran 1 o Ddeddf 2006, ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Members of the Senedd are to be known by that name or as Aelodau o’r Senedd.

5Ailenwi Clerc y Cynulliad yn Glerc y SeneddLL+C

Yn adran 26(2) o Ddeddf 2006, yn lle “Assembly” rhodder “Senedd, Clerc y Senedd”.

6Ailenwi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiwn y SeneddLL+C

Yn adran 27(1) o Ddeddf 2006, yn lle “National Assembly for Wales Commission or Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Commission or Comisiwn y Senedd”.

7Ailenwi Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiynydd Safonau y SeneddLL+C

Yn adran 1(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 7 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

8Ailenwi Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Fwrdd Taliadau Annibynnol y SeneddLL+C

Yn adran 1(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4), yn lle “Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 8 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

9Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r Rhan hon.