ATODLEN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â RHAN 2

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4)LL+C

4(1)Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhennawd adran 1, yn lle “Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd”.

(3)Yn adran 2(2)(b) ac ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.

(4)Yn adran 2(4)(b) ac adran 14(1), yn lle “grwpiau o aelodau’r Cynulliad” rhodder “grwpiau o Aelodau”.

(5)Hepgorer adran 17.

(6)Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (d), yn lle “aelod Cynulliad rhanbarthol” rhodder ”Aelod rhanbarthol o’r Senedd”;

(b)yn is-baragraff (g) hepgorer “Cynulliad”;

(c)yn is-baragraff (h), yn lle “grŵp o aelodau’r Cynulliad” rhodder “grŵp o Aelodau”;

(d)yn is-baragraff (j), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”;

(e)yn is-baragraff (n) hepgorer “Cynulliad”.

(7)Mae is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys i bob darpariaeth sy’n cynnwys y geiriau sydd i’w hamnewid gan yr is-baragraffau hynny ar ôl i’r diwygiadau yn Rhan 2 ac is- baragraffau (3) i (6) gael eu gwneud, yn ddarostyngedig i is-baragraff (8).

(8)Nid yw is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys i—

(a)enwau deddfiadau a chyfeiriadau at enwau deddfiadau;

(b)adrannau 15, 19 ac 20;

(c)paragraff 1(e) o Atodlen 1;

(d)Atodlen 3.

(9)Yn lle “aelod o’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelod o’r Senedd”.

(10)Yn lle “aelodau’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(11)Yn lle “aelodau o’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(12)Yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is- baragraffau (9), (10) a (11) gael eu gwneud, rhodder “Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)