xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CETHOLIADAU

Cofrestru etholiadolLL+C

15Gwahoddiadau i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oedLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am wahoddiadau i’w rhoi o dan adran 9E(1) o Ddeddf 1983 (gwahoddiadau i wneud cais i gofrestru) mewn perthynas â chofrestru etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch ffurf a chynnwys gwahoddiadau;

(b)ynghylch sut a phryd y mae’n rhaid rhoi gwahoddiadau;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ffurflenni cais neu ddogfennau eraill (gan gynnwys ffurflenni cais a gwblhawyd yn rhannol) yn cyd-fynd â gwahoddiadau, neu’n cael eu cyfuno â gwahoddiadau.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) roi swyddogaethau i’r Comisiwn Etholiadol (er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i’r Comisiwn ddylunio gwahoddiad).

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu (neu ddirymu) neu addasu unrhyw ddeddfiad.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)