RHAN 3ETHOLIADAU
Cofrestru etholiadol
I126Darpariaeth bellach ar gyfer eithriadau
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer neu ynghylch datgelu gwybodaeth person ifanc mewn cysylltiad ag etholiadau i’r SeneddF1, etholiadau llywodraeth leol neu refferenda lleol.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—
a
yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru gyflenwi neu ddatgelu fel arall unrhyw wybodaeth person ifanc i bersonau a bennir yn y rheoliadau;
b
yn pennu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o bersonau a bennir yn y rheoliadau yn unol â pharagraff (a), y dibenion y caniateir defnyddio unrhyw wybodaeth person ifanc a gyflenwyd neu a ddatgelwyd fel arall;
c
yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n ymwneud â’r graddau (os o gwbl) y caiff personau y cyflenwyd neu y datgelwyd unrhyw wybodaeth person ifanc iddynt (boed hynny yn unol â’r rheoliadau neu fel arall)—
i
cyflenwi neu ddatgelu fel arall yr wybodaeth i bersonau eraill;
ii
gwneud defnydd o’r wybodaeth ac eithrio at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau neu’r dibenion y cyflenwyd neu y datgelwyd yr wybodaeth fel arall yn unol â’r rheoliadau;
d
yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n cyfateb i’r rhai y caniateir eu gosod yn rhinwedd paragraff (c) mewn perthynas ag—
i
personau y mae unrhyw wybodaeth person ifanc wedi ei chyflenwi neu ei datgelu fel arall iddynt yn unol â rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff (c) neu’r paragraff hwn, neu
ii
personau sydd fel arall â mynediad at unrhyw wybodaeth person ifanc;
e
yn gosod, mewn perthynas â phersonau sy’n ymwneud â pharatoi’r gofrestr lawn o etholwyr llywodraeth leol, waharddiadau sy’n ymwneud â chyflenwi copïau o’r gofrestr lawn a datgelu unrhyw wybodaeth person ifanc a gynhwysir ynddi.
3
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
a
diwygio, diddymu neu addasu darpariaeth yn adran 25;
b
gwneud darpariaeth drwy gyfeirio at ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â chyflenwi neu ddatgelu’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu gopïau ohoni neu’r cofnodion ynddi;
c
darparu ar gyfer creu troseddau sydd i’w cosbi drwy ddirwy ar euogfarn ddiannod.
4
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
F25
Yn yr adran hon, ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—
a
adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, neu
b
adran 40 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 2).