xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CETHOLIADAU

Cofrestru etholiadolLL+C

26Darpariaeth bellach ar gyfer eithriadauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer neu ynghylch datgelu gwybodaeth person ifanc mewn cysylltiad ag etholiadau i’r Senedd[F1, etholiadau llywodraeth leol neu refferenda lleol].

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) gynnwys darpariaeth—

(a)yn awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru gyflenwi neu ddatgelu fel arall unrhyw wybodaeth person ifanc i bersonau a bennir yn y rheoliadau;

(b)yn pennu, mewn perthynas ag unrhyw ddisgrifiad o bersonau a bennir yn y rheoliadau yn unol â pharagraff (a), y dibenion y caniateir defnyddio unrhyw wybodaeth person ifanc a gyflenwyd neu a ddatgelwyd fel arall;

(c)yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n ymwneud â’r graddau (os o gwbl) y caiff personau y cyflenwyd neu y datgelwyd unrhyw wybodaeth person ifanc iddynt (boed hynny yn unol â’r rheoliadau neu fel arall)—

(i)cyflenwi neu ddatgelu fel arall yr wybodaeth i bersonau eraill;

(ii)gwneud defnydd o’r wybodaeth ac eithrio at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau neu’r dibenion y cyflenwyd neu y datgelwyd yr wybodaeth fel arall yn unol â’r rheoliadau;

(d)yn gosod gwaharddiadau neu gyfyngiadau sy’n cyfateb i’r rhai y caniateir eu gosod yn rhinwedd paragraff (c) mewn perthynas ag—

(i)personau y mae unrhyw wybodaeth person ifanc wedi ei chyflenwi neu ei datgelu fel arall iddynt yn unol â rheoliadau a wneir yn unol â pharagraff (c) neu’r paragraff hwn, neu

(ii)personau sydd fel arall â mynediad at unrhyw wybodaeth person ifanc;

(e)yn gosod, mewn perthynas â phersonau sy’n ymwneud â pharatoi’r gofrestr lawn o etholwyr llywodraeth leol, waharddiadau sy’n ymwneud â chyflenwi copïau o’r gofrestr lawn a datgelu unrhyw wybodaeth person ifanc a gynhwysir ynddi.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)diwygio, diddymu neu addasu darpariaeth yn adran 25;

(b)gwneud darpariaeth drwy gyfeirio at ddeddfiadau eraill sy’n ymwneud â chyflenwi neu ddatgelu’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu gopïau ohoni neu’r cofnodion ynddi;

(c)darparu ar gyfer creu troseddau sydd i’w cosbi drwy ddirwy ar euogfarn ddiannod.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

[F2(5)Yn yr adran hon, ystyr “refferendwm lleol” yw refferendwm a gynhelir o dan—

(a)adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) neu yn rhinwedd rheoliadau neu orchymyn a wnaed o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno, neu

(b)adran 40 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 2).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)