Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

35Diwygiadau canlyniadolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn adran 427(6B) o Ddeddf Ansolfedd 1986, yn lle “section 16(2) of the Government of Wales Act 2006 by virtue of this section” rhodder “section 16(A1)(a) of the Government of Wales Act 2006 and paragraph 4 of Schedule 1A to that Act”.

(2)Yn Atodlen 10 i Ddeddf 2006, hepgorer paragraff 18 a’r pennawd italig o’i flaen.

(3)Yn adran 1(8) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4), hepgorer paragraff (a).

(4)Yn Atodlen 1 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)

(a)ym mharagraff 6(1)(d), yn lle “paragraff 7 o’r Atodlen hon neu adran 16(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)” rhodder “dal swydd yr Ombwdsmon neu Ombwdsmon dros dro”;

(b)ym mharagraff 7, hepgorer is-baragraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 42(1)(c)