RHAN 5AMRYWIOL

I138Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o’r Senedd

1

Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n—

a

estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n 16 neu’n 17 oed,

b

estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol,

c

caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o’r Senedd, a

d

anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.

2

Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael ei osod gerbron y Senedd.

3

Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â diwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.