(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n—
(a)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n 16 neu’n 17 oed,
(b)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol,
(c)caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o’r Senedd, a
(d)anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.
(2)Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael ei osod gerbron y Senedd.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â diwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 38 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 42(1)(d)