RHAN 6CYFFREDINOL
I139Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—
a
darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
b
darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon).