RHAN 6CYFFREDINOL
I142Dod i rym
1
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
a
Rhan 1 (adran 1);
b
yn Rhan 3—
i
adran 10, ond mae’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 10(4);
ii
adran 11, ond mae‘r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 11(2);
iii
adran 27, ond mae is-adrannau (2)(d), (3) a (4) o’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 27(5);
c
Rhan 4 (adrannau 29 i 35 ac Atodlen 3), ond mae iddi effaith yn unig at ddibenion etholiad y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny;
d
yn Rhan 5, adrannau 37 a 38;
e
y Rhan hon (adrannau 39 i 43).
2
Mae Rhan 2 (adrannau 2 i 9 ac Atodlen 1) yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
3
Yn Rhan 3—
a
mae adrannau 12 i 26 yn dod i rym ar 1 Mehefin 2020;
b
mae adran 28 ac Atodlen 2 yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
4
Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)(b) gynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
5
Yn Rhan 5, mae adran 36 yn dod i rym ar ddiwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.