CYFLWYNIAD

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Ionawr 2020 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2020. Fe’u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Mae’r Ddeddf yn diwygio adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch indemnio personau a chyrff am dreuliau ac atebolrwyddau sy’n codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac yn creu pŵer newydd i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chynlluniau indemniad uniongyrchol.

ADRAN 30 – DEDDF Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL (CYMRU) 2006

3.Mae adran 30 o Ddeddf 2006 yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu cynllun fel y gall cyrff penodol wneud darpariaeth i dalu treuliau am golled neu ddifrod i’w heiddo, ac i fodloni atebolrwyddau i drydydd partïon am golled, difrod neu anaf sy’n codi wrth i’r cyrff hynny gyflawni eu swyddogaethau. Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig yw’r cyrff hyn.

SYLWEBAETH AR YR ADRANNAU

Adran 1 – Indemniadau mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau iechyd

4.Mae is-adran (2) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod y diffiniad o gynllun indemniad cydfuddiannol (“mutual indemnity scheme”) yn is-adran (1) o adran 30 o Ddeddf 2006. Mae cynnwys y term diffiniedig yn gwahaniaethu’r cynlluniau hynny a wneir yn unol ag is-adran (1), pan fo sawl corff gwasanaeth iechyd yn talu eu treuliau ac yn bodloni eu hatebolrwyddau drwy gyfuno adnoddau mewn cronfa ar y cyd, oddi wrth y cynlluniau hynny a wneir o dan yr is-adran newydd (8) a elwir yn gynlluniau indemniad uniongyrchol (“direct indemnity schemes”).

5.Mae is-adran (3) o adran 1 o’r Ddeddf yn ychwanegu at y cyrff a gaiff wneud darpariaeth o fewn cynllun indemniad o dan adran 30. Y cyntaf o’r cyrff newydd hyn yw person sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol. Byddai hyn yn cynnwys Ymarferwyr Cyffredinol. Yr ail ychwanegiad yw corff, neu berson arall, sy’n darparu neu sy’n trefnu i ddarparu gwasanaethau iechyd, neu a ddarparodd neu a drefnodd i ddarparu gwasanaethau iechyd (ac eithrio corff sydd eisoes wedi ei restru yn is-adran (2)) o dan drefniant â Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, berson sy’n darparu gwasanaethau o dan gontract â Bwrdd Iechyd Lleol.

6.Mae is-adran (5) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod enwau’r cyrff y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo i gymryd rhan mewn cynllun indemniad cydfuddiannol yn unol â’u pŵer yn is-adran (4) o adran 30 o Ddeddf 2006. Mae’n ofynnol egluro hyn o ganlyniad i’r rhestr hwy o gyrff sydd wedi ei chynnwys yn is-adran (2) o adran 30.

7.Mae is-adran (8) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod is-adrannau newydd (8) i (11) yn adran 30 o Ddeddf 2006.

8.Mae’r is-adran newydd (8) o adran 30 yn creu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun statudol y cânt indemnio’r personau neu’r cyrff yn is-adran (2) odano. Mae’r Ddeddf yn enwi’r rhain yn gynlluniau indemniad uniongyrchol (“direct indemnity schemes”).

9.Mae’r is-adran newydd (9) yn darparu rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r hyn y caiff rheoliadau sy’n sefydlu cynllun indemniad uniongyrchol ei ragnodi, gan gynnwys, er enghraifft, pwy sy’n berson cymwys, a pha atebolrwyddau neu dreuliau y caniateir eu hindemnio drwy gynllun o’r fath.

10.Mae’r is-adran newydd (10) o adran 30 yn ei gwneud yn glir nad oes dim yn adran 30 sy’n atal Gweinidogion Cymru rhag arfer eu pwerau i ddarparu indemniadau i unrhyw berson ac eithrio’r rheini sydd wedi eu rhestru yn is-adran (2), neu rhag darparu mathau gwahanol o indemniadau i’r cyrff hynny sydd wedi eu rhestru yn is-adran (2).

11.Mae is-adran newydd (11) yn darparu diffiniad o swyddogaethau (“functions”).

12.Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i adran 30 o ganlyniad i’r darpariaethau o sylwedd.

Adran 2 – Enw byr a dod i rym

13.Enw byr y Ddeddf yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 (adran 2(1)).

14.Daw’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.

COFNOD Y TRAFODION YNG NGHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

15.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd14 Hydref 2019
Cyfnod 1 – Dadl19 Tachwedd 2019
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau11 Rhagfyr 2019
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau14 Ionawr 2020
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad14 Ionawr 2020
Y Cydsyniad Brenhinol26 Chwefror 2020