10Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—
(a)o dan y pennawd “National Health Service”—
(i)hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;
(ii)hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;
(b)o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—
“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)