RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
I129Dod i rym
1
Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
3
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
b
gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.