RHAN 7CYFFREDINOL
84Dod i rym
1
Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ba ddiwrnod neu ddiwrnodau bynnag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu neu eu pennu drwy orchymyn.
3
Caiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnodau gwahanol o dan is-adran (2) at ddibenion gwahanol.
4
O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
mae i’w wneud drwy offeryn statudol, a
b
caiff wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.