ATODLEN 1Y COMISIWN ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

I24Aelodaeth gyswllt

1

Aelodau cyswllt y Comisiwn yw—

I1a

o leiaf ddau berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5 i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ehangach (“aelodau cyswllt y gweithlu”), pan fo o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd;

b

pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, berson a benodir yn unol â pharagraff 6 i gynrychioli staff y Comisiwn (“aelod cyswllt staff y Comisiwn”);

I1c

o leiaf un person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7 i gynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol (“aelod cyswllt y dysgwyr”).‍

2

Yn y paragraff hwn a pharagraff 6, mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.