xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4(1)Aelodau cyswllt y Comisiwn yw—
(a)o leiaf ddau berson a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5 i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ehangach (“aelodau cyswllt y gweithlu”), pan fo o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac o leiaf un wedi ei benodi i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol anacademaidd;
(b)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Comisiwn, berson a benodir yn unol â pharagraff 6 i gynrychioli staff y Comisiwn (“aelod cyswllt staff y Comisiwn”);
(c)o leiaf un person a benodir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 7 i gynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol (“aelod cyswllt y dysgwyr”).
(2)Yn y paragraff hwn a pharagraff 6, mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2Atod. 1 para. 4(1)(a)(c) mewn grym ar 15.12.2022 gan O.S. 2022/1318, ergl. 2(c)(iii)