ATODLEN 4MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

I118Deddf Addysg 2005 (p. 18)

1

Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 20 (swyddogaethau’r Prif Arolygydd), yn is-adran (7) yn lle “which is brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

3

Yn adran 24 (pŵer y Prif Adolygydd i drefnu arolygiadau), yn is-adran (6) yn lle “brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

4

Yn adran 28 (dyletswydd i drefnu arolygiadau rheolaidd o ysgolion penodol), ym mharagraff (a) o is-adran (7) yn lle “which is brought within the remit of the Chief Inspector by Part 4 of the Learning and Skills Act 2000 (c. 21)” rhodder “to which the functions of the Chief Inspector under Part 2 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 apply”.

5

Yn adran 44C (adroddiad yn dilyn arolygiad ardal ar ysgolion a chanddynt chweched dosbarth y mae arnynt angen gwelliant sylweddol), yn is-adran (1) yn lle “section 83 of the Learning and Skills Act 2000” rhodder “section 63 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

6

Yn adran 44D (copïau o’r adroddiad a’r cynllun gweithredu), yn is-adran (3)—

a

yn lle “paragraph” rhodder “section”;

b

ym mharagraff (a), yn lle “38(2)” rhodder “38(3)”.

7

Yn adran 44E (adroddiad ar ysgolion chweched dosbarth sy’n peri pryder yn dilyn arolygiad ardal), yn is-adran (1) yn lle “section 83 of the Learning and Skills Act 2000” rhodder “section 63 of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022”.

8

Hepgorer adrannau 85 i 91 (swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru mewn perthynas â hyfforddiant athrawon).

9

Yn adran 92 (arfer swyddogaethau ar y cyd)—

a

yn is-adran (1) hepgorer “, HEFCW”;

b

yn is-adran (2) hepgorer “or the the Assembly to the extent that it is discharging its functions under Part 2 of the Learning and Skills Act 2000”;

c

hepgorer is-adran (4).

10

Yn adran 93 (astudiaethau effeithlonrwydd)—

a

yn is-adran (1) hepgorer “and HEFCW”;

b

yn is-adran (2) hepgorer “or HEFCW”;

c

yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b) a’r “or” o’i flaen.

11

Yn adran 94 (darparu gwybodaeth)—

a

hepgorer is-adrannau (1) a (2);

b

yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b);

c

yn is-adran (4), ym mharagraff (a) hepgorer “, a grant, loan or other payment under section 86, or”.

12

Hepgorer adran 97 (sefydliadau sydd o gymeriad enwadol).

13

Yn adran 100 (dehongli Rhan 3)—

a

yn is-adran (1) hepgorer y diffiniadau o “the Chief Inspector for Wales”, “denominational character”, “governing body” a “HEFCW”;

b

hepgorer is-adran (2).

14

Yn Atodlen 9 (diwygiadau sy’n ymwneud ag arolygu ysgolion), hepgorer paragraffau 24 a 25.

15

Yn Atodlen 18 (diwygiadau pellach), hepgorer paragraff 13.