RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

144Dehongli cyffredinol

1

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “adnoddau ariannol” (“financial resources”) yw adnoddau ariannol o unrhyw fath gan gynnwys grantiau, benthyciadau a thaliadau eraill;

  • ystyr “addysg drydyddol” (“tertiary education”) yw addysg uwch, addysg bellach neu hyfforddiant;

  • ystyr “addysg drydyddol Gymreig” (“Welsh tertiary education”) yw addysg drydyddol—

    1. a

      a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru, neu

    2. b

      a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

  • ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40);

  • mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” gan adran 2 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

  • mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (gweler adran 1);

  • mae “corff llywodraethu” (“governing body”) i’w ddehongli fel a ganlyn—

    1. a

      mewn perthynas â darparwr hyfforddiant na fyddai, oni bai am yr adran hon, yn cael ei ystyried yn sefydliad, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    2. b

      mewn perthynas ag ysgol, ei ystyr yw perchennog yr ysgol o fewn yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

    3. c

      mewn perthynas â darparwr a ddynodir o dan adran 83, ei ystyr yw unrhyw bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

    4. d

      mewn perthynas ag unrhyw sefydliad arall, mae iddo’r ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), ond yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 90(2) o’r Ddeddf honno;

  • mae “cyfleusterau i Gymru” (“facilities for Wales”) yn cynnwys—

    1. a

      cyfleusterau yng Nghymru, a

    2. b

      cyfleusterau eraill sydd ar gael i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru;

  • mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir gan adran 3 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “darparwr addysg drydyddol yng Nghymru” (“tertiary education provider in Wales”) yw sefydliad sy’n darparu addysg drydyddol, gan gynnwys addysg drydyddol a ddarperir ar ei ran, y cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

  • ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr; ac mae cyfeiriadau at “cofrestru” (“registration”) i’w darllen yn unol â hynny;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir o dan adran 25;

  • ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae “sefydliad” (“institution”) yn cynnwys unrhyw ddarparwr hyfforddiant (pa un a fyddai’r darparwr hyfforddiant fel arall yn cael ei ystyried yn sefydliad ai peidio);

  • ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau;

  • mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52);

  • mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol.

2

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at addysg bellach yn gyfeiriadau at addysg (ac eithrio addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg o’r fath.

3

Yn unol â hynny, at ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg bellach yn cynnwys addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed a ddarperir mewn ysgol y darperir addysg uwchradd ynddi hefyd.

4

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at hyfforddiant yn gyfeiriadau at hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig â hyfforddiant o’r fath.

5

At ddibenion is-adrannau (2) a (4)—

a

mae addysg yn cynnwys addysg lawn-amser a rhan-amser;

b

mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant llawn-amser a rhan-amser;

c

mae hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden.

6

Yn y Ddeddf hon—

a

mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg bellach yn gyfeiriadau at “institutions within the further education sector” sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), a

b

mae cyfeiriadau at sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yn gyfeiriadau at “institutions within the higher education sector” sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

7

Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) yn gymwys i benderfynu, at ddibenion y Ddeddf hon, a yw person o’r oedran ysgol gorfodol, i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys o ran Cymru.

8

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon (sut bynnag y’u mynegir) at ddarparu addysg drydyddol gan, neu ar ran, darparwr addysg drydyddol yng Nghymru (gan gynnwys darparwr cofrestredig neu ddarparwr penodedig) yn cynnwys cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir—

a

mewn un neu ragor o leoedd yng Nghymru neu mewn mannau eraill,

b

drwy gyfrwng gohebiaeth, offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle (pa un ai yng Nghymru neu mewn mannau eraill) i gymryd rhan yn yr addysg drydyddol, neu

c

drwy gyfuniad o’r ffyrdd a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b).

9

Yn is-adran (1), ystyr “darparwr hyfforddiant” yw person sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer aelodau o weithlu’r ysgol (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the school workforce” gan adran 100 o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18)).

10

At ddibenion y Ddeddf hon, mae addysg drydyddol a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.