RHAN 7AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

I1146Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

1

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

a

darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

b

darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad a gynhwysir yn y Ddeddf hon).