xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2LL+CCOFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL

Cofrestr o henebionLL+C

3Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebionLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o henebion yng Nghymru y maent yn ystyried eu bod o bwysigrwydd cenedlaethol, a rhaid iddynt gyhoeddi’r gofrestr gyfredol.

(2)Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb gynnwys map a gynhelir gan Weinidogion Cymru sy’n nodi ffiniau’r heneb.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb;

(b)drwy ddileu heneb;

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb (pa un ai drwy ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol, neu fel arall).

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ychwanegu at y gofrestr unrhyw adeilad nac unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(5)Mae cofnod yn y gofrestr sy’n cofnodi i heneb gael ei chynnwys yn bridiant tir lleol.

(6)Yn y Rhan hon ystyr “y gofrestr” yw’r gofrestr a gynhelir o dan yr adran hon.

(7)Yn y Ddeddf hon ystyr “heneb gofrestredig” yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

4Hysbysu perchennog etc. pan fo’r gofrestr wedi ei diwygioLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb.

(2)Cyn gynted â phosibl ar ôl diwygio’r gofrestr rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)i bob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ychwanegu heneb at y gofrestr neu wedi diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb—

(a)rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig ar gyfer yr heneb yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interimLL+C

5Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestrLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig diwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb,

(b)drwy ddileu heneb, neu

(c)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb i ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3)—

(a)sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig, a

(b)sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.

(3)Y personau yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb,

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol gan fod ganddynt wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)—

(a)pennu o fewn pa gyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau, a

(b)yn achos cynnig i ychwanegu heneb neu i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb—

(i)cynnwys datganiad o effaith adran 6 (gwarchodaeth interim), a

(ii)pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.

(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

6Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad ar ddiwygiadau penodol sy’n ymwneud â’r gofrestrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 5(2) ynghylch cynnig i ddiwygio’r gofrestr—

(a)drwy ychwanegu heneb, neu

(b)drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb drwy ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb.

(2)O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 5(4)(b)(ii) mae’r Ddeddf hon yn cael effaith—

(a)yn achos cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr, fel pe bai’r heneb yn heneb gofrestredig;

(b)yn achos cynnig i ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb, fel pe bai’r diwygiad wedi ei wneud.

(3)Cyfeirir yn y Rhan hon at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) fel “gwarchodaeth interim”.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi rhestr o’r henebion sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a

(b)darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 5(2) mewn cysylltiad â heneb o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

7Pan ddaw gwarchodaeth interim i benLL+C

(1)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(a) (cynnig i ychwanegu heneb at y gofrestr) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ychwanegu’r heneb at y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(2)Daw gwarchodaeth interim a roddir gan adran 6(2)(b) (cynnig i ddiwygio cofnod yn y gofrestr sy’n ymwneud â heneb) i ben mewn perthynas â heneb—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 4(2), neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â diwygio’r cofnod yn y gofrestr, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir ganddynt i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(3)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yw—

(a)pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(4)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adrannau (1)(b) a (2)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

8Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interimLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas â heneb oherwydd hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b).

(2)Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

(3)Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r heneb oherwydd y warchodaeth interim.

(4)Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

Adolygu penderfyniadau i ddiwygio’r gofrestr i ychwanegu henebion etc.LL+C

9Adolygu penderfyniad i ychwanegu heneb at y gofrestr etc.LL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru—

(a)yn ychwanegu heneb at y gofrestr, neu

(b)yn diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o’r heneb,

rhaid i’r hysbysiad o dan adran 4(2) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr heneb wneud cais i Weinidogion Cymru sy’n gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

(2)Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r heneb neu’r rhan o’r heneb (yn ôl y digwydd) o bwysigrwydd cenedlaethol.

(3)Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—

(a)i gynnal yr adolygiad, a

(b)i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fo rhaid iddynt hwy, yn lle person a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r gofrestr y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i’r penderfyniad ar adolygiad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—

(a)i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;

(b)i addasu sail ar gyfer adolygiad;

(c)i ddileu sail ar gyfer adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

10Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadauLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 9 gael ei wneud;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, mewn cysylltiad â chais;

(c)y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.

(2)Rhaid i adolygiad o dan adran 9 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—

(a)drwy ymchwiliad lleol;

(b)drwy wrandawiad;

(c)ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 9.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) awdurdodi Gweinidogion Cymru neu bersonau a benodir o dan adran 9(3)—

(a)i benderfynu materion o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, a

(b)i roi cyfarwyddydau mewn perthynas â’r materion hynny.

(5)Mae Atodlenni 2 a 6 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch adolygiadau o dan adran 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)