RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 3CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU ADEILADAU RHESTREDIG

I1114Darpariaeth bellach ynghylch cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig

1

Rhaid i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig fod yn ysgrifenedig.

2

Rhaid i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig—

a

cynnwys digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad rhestredig y mae’n ymwneud ag ef, gan gynnwys plan;

b

cynnwys unrhyw blaniau eraill ac unrhyw luniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio unrhyw waith y mae’n ymwneud ag ef;

c

pennu’r dyddiad y mae’n cymryd effaith a’i hyd;

d

gwneud darpariaeth i’r partïon adolygu telerau’r cytundeb ar ysbeidiau a bennir ynddo;

e

gwneud darpariaeth ar gyfer ei amrywio (ond mae hyn yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (5));

f

gwneud darpariaeth ar gyfer ei derfynu (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 115).

3

Caiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gynnwys darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol.

4

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu telerau eraill y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

a

yr ymgynghoriad y mae rhaid ei gynnal cyn i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig gael ei wneud neu ei amrywio;

b

y cyhoeddusrwydd y mae rhaid ei roi i gytundeb partneriaeth adeilad rhestredig cyn neu ar ôl iddo gael ei wneud neu ei amrywio.

6

Wrth ystyried pa un ai i wneud cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig sy’n rhoi cydsyniad adeilad rhestredig, neu amrywio cytundeb fel ei fod yn rhoi cydsyniad, rhaid i awdurdod cynllunio neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb diogelu—

a

yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef,

b

safle’r adeilad, ac

c

unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd gan yr adeilad.

7

Ni chaiff cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig osod unrhyw rwymedigaeth neu unrhyw atebolrwydd ar berson nad yw’n barti i’r cytundeb, na rhoi unrhyw hawl i berson o’r fath; ac nid yw cydsyniad adeilad rhestredig a roddir gan gytundeb o’r fath yn cael effaith ond er budd y partïon iddo.

8

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

a

datgymhwyso, neu gymhwyso neu atgynhyrchu gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth yn adrannau 90 i 104 (rhoi cydsyniad adeilad rhestredig) neu Bennod 4 (gorfodi) at ddibenion cytundebau partneriaethau adeiladau rhestredig, a

b

darparu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon fod yn gymwys gydag addasiadau sy’n ganlyniadol ar ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).