xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff y cyrff a bennir yn is-adran (2) atgyfeirio mater i gorff GIG, gan ofyn iddo ystyried a oes unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc.
(2)Y cyrff yw—
(a)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â phlentyn, neu â pherson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, awdurdod lleol;
(b)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â pherson ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, y corff sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc.
(3)Ond ni chaiff corff wneud atgyfeiriad o dan is-adran (1) oni bai—
(a)ei fod wedi rhoi gwybod i’r plentyn neu i’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, ei fod yn bwriadu gwneud yr atgyfeiriad,
(b)ei fod wedi rhoi cyfle i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, i drafod a ddylai’r atgyfeiriad gael ei wneud, ac
(c)ei fod wedi ei fodloni bod gwneud yr atgyfeiriad er lles pennaf y plentyn neu’r person ifanc.
(4)Os caiff mater ei atgyfeirio i gorff GIG o dan yr adran hon, rhaid i’r corff GIG ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc.
(5)Os yw’r corff GIG yn nodi triniaeth neu wasanaeth o’r fath, rhaid iddo—
(a)sicrhau’r driniaeth neu’r gwasanaeth ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,
(b)penderfynu a ddylai’r driniaeth gael ei darparu neu a ddylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, ac
(c)os yw’n penderfynu y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu i’r person ifanc, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei darparu neu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.
(6)Yn yr adran hon, ac yn adran 21, ystyr “triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol” yw unrhyw driniaeth neu wasanaeth y byddai corff GIG fel arfer yn ei darparu neu yn ei ddarparu fel rhan o’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 20(3)(a)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(g)
C2A. 20(3)(a)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 20 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 20 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 20 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I5A. 20 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I6A. 20 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I7A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I8A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I9A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I10A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I11A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I12A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I13A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I14A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4