xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Adolygu cynlluniauLL+C

24Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofalLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun cyn diwedd pob cyfnod adolygu.

(2)Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun gyntaf o dan adran 22.

(3)Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig gyntaf o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu

(b)pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol, â’r dyddiad yn ystod y cyfnod hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad gyntaf o dan is-adran (9) mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

(4)Ond pan na fo’r naill ddogfen na’r llall o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.

(5)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw Tribiwnlys Addysg Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn gorchymyn i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun.

(6)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os—

(a)yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a

(b)yw’r corff GIG yn gofyn i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun.

(7)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn sy’n derbyn gofal neu gan riant y plentyn sy’n derbyn gofal, oni bai bod yr awdurdod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.

(8)Caiff awdurdod lleol—

(a)adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a

(b)diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.

(9)Os yw awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(10)Os yw awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol plentyn sy’n derbyn gofal (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), rhaid iddo roi copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig i—

(a)y plentyn sy’n derbyn gofal,

(b)rhiant y plentyn sy’n derbyn gofal, ac

(c)swyddog adolygu annibynnol y plentyn sy’n derbyn gofal.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 24(1): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 24 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 24 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 24 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I5A. 24 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 24 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I8A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I9A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I10A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I11A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I12A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I13A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I14A. 24 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)