27Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o gynlluniau a gynhelir o dan adran 12LL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—
(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer disgybl cofrestredig o dan adran 12(1) neu 12(3), a
(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y cynllun gyda golwg ar ei ddiwygio.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun a phenderfynu pa un ai i ddiwygio’r cynllun ai peidio.
(3)Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
(4)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(5)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o hysbysiad o dan is-adran (4) i’r corff llywodraethu.
(6)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio, neu os gorchmynnir iddo ei ddiwygio gan Dribiwnlys Addysg Cymru, rhaid iddo lunio cynllun diwygiedig a naill ai—
(a)cyfarwyddo’r corff llywodraethu i’w gynnal, neu
(b)arfer y pŵer yn adran 28(6) i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.
(7)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu (am ddarpariaeth ynghylch eraill y mae rhaid rhoi copi iddynt, gweler adran 23(11)).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 27(1)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(l)
C2A. 27(1)(b) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(i)
C3A. 27(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 37(1)(m)
C4A. 27(4) addaswyd (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 35(1)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 27 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 27 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 27 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I5A. 27 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I6A. 27 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I7A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I8A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I9A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I10A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3
I11A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)
I12A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I13A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I14A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4