Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

48Dyletswydd i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir a enwirLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi ei henwi mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir ar gyfer plentyn gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau bod y plentyn yn cael ei dderbyn i’r ysgol.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol dderbyn y plentyn.

(3)Cyn enwi ysgol o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori—

(a)â chorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol a gynhelir pan nad yr awdurdod lleol na’i chorff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, â’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r ysgol.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol enwi ysgol a gynhelir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben sicrhau bod plentyn yn cael ei dderbyn ond—

(a)os yw’r awdurdod wedi ei fodloni ei bod, er lles y plentyn, yn ofynnol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn ei gynllun gael ei gwneud yn yr ysgol, a

(b)os yw’n briodol darparu addysg neu hyfforddiant i’r plentyn yn yr ysgol.

(5)Mae is-adran (2) yn cael effaith er gwaethaf unrhyw ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol gan adran 1(6) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (terfynau ar faint dosbarthiadau babanod).

(6)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer i wahardd disgybl o ysgol.

(7)Yn yr adran hon, mae i “awdurdod derbyn” yr ystyr a roddir i “admissions authority” gan adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 48 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 48 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I5A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 48 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I7A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I8A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4

I9A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)

I10A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3

I11A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I12A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I13A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I14A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)