xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a ddylai gael ei addysgu mewn ysgol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2) yn gymwys.
(2)Yr amgylchiadau yw—
(a)bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;
(b)bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;
(c)bod rhiant y plentyn yn dymuno i’r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.
(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddibynnu ar yr eithriad yn is-adran (2)(a) oni bai nad oes unrhyw gamau rhesymol y gallai’r awdurdod eu cymryd i atal yr anghydnawsedd.
(4)Pan fo rhiant plentyn yn dymuno i’w blentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.
(5)Nid yw is-adran (1) yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn—
(a)ysgol annibynnol, neu
(b)ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56),
os telir y gost ac eithrio gan awdurdod lleol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 51 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 51 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I5A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(i), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I6A. 51 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I7A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I8A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(i), 4
I9A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I10A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(i)
I11A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I12A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I13A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(i) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I14A. 51 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(i), 3