Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng NghymruLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(3)Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(ii)ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 57 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(e)