xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 42 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F1Senedd Cymru] ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
(a)rheoliadau o dan adran 6(2);
(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn [F2Deddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F3Senedd Cymru].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 43(2) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(6)
F2Geiriau yn Deddf wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(8)
F3Geiriau yn a. 43(3) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 43 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)Rhan 1;
(b)adran 6(2) a (3);
(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;
(d)Rhan 3;
(e)y Rhan hon.
(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;
(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 44 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 45 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)