Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i [F1Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I2A. 4 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2