Chwilio Deddfwriaeth

Newidiadau i Ddeddfwriaeth

Mae’r rhestrau hyn yn darparu manylion o’r newidiadau i ddeddfwriaeth yn cynnwys diddymiadau, addasiadau ac effeithiau eraill (e.e. addasiadau a gwybodaeth gychwyn) a wneir gan ddeddfwriaeth wedi hynny.

Mae’r ffurflen chwilio isod yn rhoi mynediad i restrau sy’n cynnwys manylion a wneir gan holl ddeddfwriaethau’r DU sydd wedi’u deddfu o 2002 hyd heddiw i’r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ar legislation.gov.uk. Mae newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaethau sydd wedi’u deddfu cyn 2002 eisoes wedi’u hymgorffori yng nghynnwys y ddeddfwriaeth sylfaenol ac nid ydynt ar gael fel rhestrau chwiliadwy. Mae newidiadau a wnaed gan y ddeddfwriaeth eilaidd sydd wedi’u deddfu o 2000 ymlaen ar gael. Mae newidiadau i Reoliadau a Phenderfyniadau’r UE sy’n deillio o’r UE gan ddeddfwriaeth y DU hefyd wedi’u cynnwys yn y rhestrau hyn.

Diweddarir y rhestri gyda’r newidiadau a wneir gan ddeddfwriaeth newydd cyn gynted ag y mae modd ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei derbyn gan dîm golygyddol legislation.gov.uk. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y newidiadau ar gael cyn pen dwy wythnos o’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyhoeddi, ond yn ystod cyfnodau arbennig o brysur am ddeddfwriaethau newydd, gallai gymryd yn hirach. Hyd at ymadawiad yr UE, cafwyd newidiadau i ddeddfwriaethau’r UE a wnaed gan ddeddfwriaeth yr UE cyn i’r DU adael yr UE o EUR-Lex a’u cyhoeddi ar y tudalennau Newidiadau i Ddeddfwriaeth.

Sylwer: Lle bo newidiadau ac effeithiau sydd eisoes i’w cymhwyso i ddeddfwriaeth y DU neu’r UE yr ydych yn edrych arni ar y safle hwn, yna mae unrhyw ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’ hefyd wedi’u harddangos ochr yn ochr â chynnwys y ddeddfwriaeth ar lefel darparu.

Chwilio

Newidiadau sy’n effeithio ar:Changes that affect help
gwnaed gan:Made by help

Canlyniadau yn dangosResults showing help

Newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol

Mae’r Tablau Cronolegol yn rhestru newidiadau i Ddeddfau Lleol a Phreifat a Phersonol yn dyddio o 1797 hyd 2008. Maent yn cael eu diweddaru yn flynyddol ac fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r tablau yn rhestru Deddfau Lleol, Preifat a Phersonol yn eu trefn gronolegol ynghyd â manylion am ddiddymiadau a newidiadau (gan gynnwys cywiriadau ac amnewidiadau) a wnaed i’r Deddfau hynny. Maent wedi cael eu cyhoeddi mewn rhannau er mwyn eu gwneud yn haws i’w defnyddio.

Close

Newidiadau a wnaed i destun y wefan

Defnyddiwch y cyfleuster hwn i chwilio am newidiadau sy’n effeithio ar un eitem o ddeddfwriaeth neu fwy yn seiliedig ar y meini prawf isod. Neu, gallech adael yr ochr hon o’r ffurflen yn wag i chwilio am y newidiadau ac effeithiau ar unrhyw ddeddfwriaeth ddiwygiedig.

  • Math o ddeddfwriaeth: Mae’r maes dewisol hwn yn caniatáu i chi gyfyngu eich chwiliad i newidiadau yn effeithio ar y math o ddeddfwriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo. Mae’r rhestr gwymp yn cynnwys y mathau hynny o ddeddfwriaeth ble mae gennym fersiynau diwygiedig ohonynt ar legislation.gov.uk.
  • Blwyddyn benodol/Ystod o flynyddoedd: Mae’r meysydd dewisol hyn yn caniatáu i chi gyfyngu eich chwiliad i newidiadau sy’n effeithio ar ddeddfwriaeth blwyddyn benodol neu dros ystod o flynyddoedd.
  • Rhif: Os ydych chi’n chwilio am newidiadau sy’n effeithio ar eitem benodol o ddeddfwriaeth, a’ch bod yn gwybod ei rif cyfresol, gallwch ei roi yn y maes rhif.
Close

A wnaed gan

Cyfyngwch eich chwiliad ar gyfer deddfwriaeth a newidiwyd trwy roi manylion ynglŷn â’r ddeddfwriaeth a wnaeth yr effeithiau hyn yn defnyddio’r ochr hon o’r ffurflen. Neu, gadewch yr ochr hon o’r ffurflen yn wag ar gyfer effeithiau a newidiadau a wnaed gan unrhyw ddeddfwriaeth.

  • Math o ddeddfwriaeth: Mae’r maes dewisol hwn yn caniatáu i chi gyfyngu eich chwiliad i’r math o ddeddfwriaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo yn defnyddio’r blwch cwymplen.
  • Blwyddyn benodol/Ystod o flynyddoedd: Mae’r meysydd dewisol hyn yn caniatáu i chi gyfyngu eich chwiliad i newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth mewn blwyddyn benodol neu dros ystod o flynyddoedd. Gair o gyngor: i chwilio ar gyfer yr holl newidiadau a wnaed gan yr holl ddeddfwriaeth mewn blwyddyn benodol, rhowch y flwyddyn ar yr ochr hon o’r ffurflen, gan adael yr ochr ‘Newidiadau sy’n effeithio’ yn wag.
  • Rhif: Os ydych chi’n chwilio am newidiadau a wnaed gan eitem benodol o ddeddfwriaeth, a’ch bod yn gwybod ei rif cyfresol, gallwch ei roi yn y maes rhif.
Close

Defnyddiwch y blychau ticio i weld naill ai:

  • Holl newidiadau: Yr holl newidiadau ac effeithiau sy’n cyd-fynd â’ch chwiliad
  • Newidiadau a weithredwyd: Y newidiadau ac effeithiau sy’n cyd-fynd â’ch meini prawf chwilio ac sydd wedi eu gweithredu i destun deddfwriaeth a gedwir ar y wefan hon gan dîm golygyddol legislation.gov.uk.
  • Newidiadau heb eu gweithredu: Y newidiadau ac effeithiau sy’n cyd-fynd â’ch meini prawf chwilio ond sydd heb eu gweithredu eto i destun deddfwriaeth a gedwir ar y wefan hon gan dîm golygyddol legislation.gov.uk.